![photo-3](https://shabwm.wordpress.com/wp-content/uploads/2014/11/photo-3.jpg?w=225&h=300)
Fedri di ddweud rhywbeth wrthym ni am dy gymeriad di yn Shabwm?
Mae hi’n gymeriad sydd wrth ei bodd efo straeon. Dyna ydy rhan fwyaf ei bywyd hi. Mae ei bywyd yn llawn o atgofion a mae hi wrthi hefyd yn trio plethu stori ei bywyd i greu y llyfr perffaith. Mae hi’n trio casglu’r holl atgofion at ei gilydd i greu rhywbeth newydd.
Sut fyddet ti’n disgrifio’r sioe mewn ychydig eiriau?
Gwead o wahanol ddulliau yn trio priodi tawelwch, twrw, swn a cherddoriaeth.
Sut aethoch chi ati i greu y sioe?
Wnaethon ni ddechra hefo dau gymeriad eithaf pendant, Twrw a Smic ac mae hwnnw wedi datblygu drwy weithio hefo ysgolion lleol. Roedden ni’n holi’r plant, be mae Twrw a swn yn gyfleu iddyn nhw – be mae distawrwydd yn gyfleu iddyn nhw a drwy’r adwaith gafon ni ganddyn nhw, ddaru ni ddechrau creu cymeriadau. Ers hynny, mae’r cynhyrchiad wedi newid dipyn – mae gynon ni drydydd cymeriad hefyd rwan. Dyna sut aethon ni ati i ddechrau, efo dau gymeriad pendant. ‘Da ni hefyd wedi bod yn byrfyfyrio – ‘da ni di cael llwyth o ryddid – ‘da ni wedi bod yn agored iawn yn chwarae efo bob math o wahanol bethe. Mae Gruff yn gweithio hefo ni hefyd ac yn gweithio ar wahanol fathau o synau a cherddoriaeth.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am y broses ddyfeisio?
‘Dw i wrth fy modd yn cael y rhyddid rydan ni’n ei gael yn Frân Wen i rili drio unrhyw beth – y rhyddid i chwarae, i drio ac i fethu ac i drio eto, mae hwnnw’n beth eitha prin dw i’n meddwl. ‘Da ni rwan yn y pumed wythnos a ‘da ni dal rili heb setio ddim byd mewn carreg eto. Ond, rwan, ti’n dechre teimlo ei bod hi’n amser i ddechrau rhoi pethe’ at ei gilydd a chael mwy o strwythur. Ond, rydan ni eisiau cadw yr un teimlad o chwarae a’r rhyddid sydd ‘na pan ‘da ni’n cael byrfyfyrio. Chwynnu ‘da ni eisiau wneud rwan.
Sut brofiad ydy cydweithio gydag ysgolion lleol ar ddatblygu’r cynhyrchiad?
Gret! Mae’n lyfli achos fedrwn ni gael y syniadau fwyaf gwych, dwys neu doniol yn yr ystafell ymarfer ond nes ti’n mynd a fo allan i ysgolion ti ddim yn gwybod sut adwaith ti’n mynd i gael. Hefyd, efo defnyddio iaith, rydan ni wedi sylweddoli ella bod ein iaith ni chydig bach yn rhy anodd i’r ysgolion ddeall. Be sy’n ddifyr ydy ‘da ni ddim wedi gorfod symleiddio o gwbwl o ran cynnwys achos a deud y gwir maen nhw wedi ein synnu ni ar yr ochr orau. Maen nhw’n gael o, er bod ein perfformiad ni’n chydig bach fwy abstract na naturiolaidd, maen nhw wedi’i ddeall o. Mae hynny wedi bod yn ffantastig! Mae’r plant llawn dychymyg ac yn fodlon mynd efo ti ar daith – mae hynny wedi rhoi ffydd mawr i ni yn y broses greadigol.
Sut brofiad ydy rhannu llwyfan gyda Llyr a Gwennan?
Gret! Dw i rioed wedi gweithio hefo’r un o’r ddau o’r blaen felly mae’n brofiad newydd. Hefyd, o fynd yn y dechrau o weithio hefo jest dau ohonom ni, Twrw a Smic – i rwan gael y trydydd elfen i mewn – mae o wedi newid y ddeinameg ar y llwyfan. Mae’n gret cael rhywun arall i fownsio oddi arno, a rhywun iau hefyd, mae hynny’n dod a rhywbeth newydd i’r cynhyrchiad. ‘Dw i’n licio gweithio mewn odrif am rhyw reswm. Ma dau rhy daclus ‘dw i’n teimlo weithia. Mae gynon ni’r elfen gerddorol hefyd sy’n gymeriad arall yno’i hun mewn ffordd, felly allet ti ddweud bod na bedwar cymeriad. Y gerddoriaeth sy’n gweu’r cymeriadau hefo’i gilydd dw i’n meddwl.
Faint mae dychymyg plant wedi ychwanegu at y sgript?
Llwyth, yn hynny o beth. Mae wedi rhoi’r hyder i ni fel cwmni i benderfynu does dim angen dyfrio be da ni’n neud. Mae’r plant yn medru neidio yn eu dychymyg. Mae wedi rhoi mwy o ryddid i ni chwarae os rhywbeth ac wedi profi bod ‘na bosibiliadau di-ben draw i be ‘da ni’n wneud achos mae o’n bwnc eang ofnadwy.
Ydy’r stori wedi newid lot yn ystod y broses ddyfeisio?
Ydy, mae o! Mae gynon ni drydydd cymeriad wedi ymuno yn annisgwyl ond yn hyfryd. Mae o’n bendant wedi newid y stori. Mae wedi ychwanegu haen ar ben haen ar ben haen. Be sy’n gret am hynny ydy, pan ti’n dod i flocio’r perfformiad, mae gen ti’r sylfaen gre’ yna yno’n barod. Mae wedi newid y ddeinameg yn bendant a’r llinell stori wedi newid mymryn ond yn ei hanfod yr un un peth ydy hi, jest bod gynon ni fwy o bosibiliadau chwarae efo’r trydydd cymeriad.
Pwy yw dy hoff actor a pam?
Mae’n newid drwy’r amser rili. Ond, dw i newydd fod yn gwylio Dancer in the Dark efo Björk yn canu ac yn actio’r prif gymeriad ynddi. Mae hi jest yn anfarwol, ma’ hi mor gynnil, mae’n ffilm fendigedig ac yn ofnadwy run pryd. Ond, i mi, mae hi yn y rhan yna yn un o’r pethe gore dw i wedi’i weld ar lwyfan a sgrin, ma’ hi’n wych!
Petaet yn cael un dymuniad yn y byd – beth fyddai’r dymuniad hwnnw?
Cael gwared o dlodi drwy’r byd i gyd. Mae’n rhywbeth sa ni wedi gallu gwneud sawl gwaith drosodd ‘sa gynon ni fyd cyflawn. Dyna fasa fy nymuniad i.