Lois Prys – Y Cynllunydd

photo-1

Mewn cyfres o gyfweliadau, mae’r Frân Wen yn mynd tu ôl i lenni’r ymarferion i ddarganfod mwy am dîm creadigol Shabŵm.

Sut fyddet ti’n disgrifio sioe Shabwm mewn ychydig eiriau?

 

Sioe am y cysylltiad rhwng distawrwydd, cerddoriaeth a twrw.

 

Sut wyt ti wedi mynd i’r afael â chreu’r set a’r props? Beth oedd yn bwysig i ti ystried wrth wneud hyn?

 

Nifer o elfennau! ‘Dw i’n gorfod meddwl am sut mae’r plant am ymateb i be dw i’n mynd i roi o’u blaenau, hefyd pa mor hawdd ydy mynd i mewn ac allan o ysgolion ac wedyn sut mae’n ychwanegu at y stori ‘da ni’n trio’i dweud.

 

Beth sy’n dy ysbrydoli wrth i ti fynd ati i greu?

 

Mae’n gallu bod yn rhywbeth ‘dw i ‘di weld, teimlad, be ‘da ni’n siarad amdano neu weithiau mae lliwiau yn fy ysbrydoli. Yn yr achos yma mae plant o’r ysgolion wedi f’ysbrydoli hefyd.

 

Sut brofiad ydy cyd-weithio gydag ysgolion lleol ar ddatblygu’r cynhyrchiad?

 

Mae wedi bod yn brofiad gwych. Mae gan blant gymaint o syniadau gwahanol i ni fel oedolion. Maen nhw’n meddwl am bethau mewn ffyrdd gwahanol i ni. Mae wedi bod yn gret gweithio hefo nhw ar wahanol lefelau o ran be maen nhw wedi ddweud, o ran be maen nhw wedi tynnu llun ar bapur ac o ran eu hwyliau cyffredinol a’u syniadau.

 

Dy hoff ran o’r broses greu a pam?

 

‘Dw i’n licio cael fy nwylo yn fudur felly i mi, y rhan fwyaf difyr ydy’r rhan lle dw i’n dechrau gwneud pethau. Mae dyluniad yn amlwg yn rhan fawr o’r broses. Ond, pan dw i’n cael dechrau creu petha’n 3D, dyna’r rhan ‘dw i’n ei fwynhau fwyaf.

 

Petaet yn cael un dymuniad yn y byd – beth fyddai’r dymuniad hwnnw?

 

‘Swn i wrth fy modd yn gallu siarad bob iaith yn y byd!

 

Faint mae dychymyg plant wedi ychwanegu at ddyluniad y gofod a’r hyn ti’n greu?

 

‘Da ni’n gobeithio bod ‘na un peth eitha’ hudol yn mynd i ddod ar ddiwedd y sioe sy’n syth o ddychymyg y plant. Wnai ddim dweud gormod, i chi gael syrpreis bach! Ond, mae ‘na un elfen ar ddiwedd y sioe sy’n llawn o ddychymyg y plant. Felly, gewch chi weld!

 

LOGO FRAN WEN

 

 

Leave a comment